Mae Alfie Dan’s yn ardd farchnad 1-erw ger Aberhonddu ac rydym yn tyfu ffrwythau, blodau a llysiau ar gyfer pobl leol: o’n cae i’ch fforc.
Marie ydw i ac rwy’n gyfrifol am yr ardd gyda fy mhartner. Roedd fy Nhad-cu yn dyfwr rhandir brwd. Roedd gan yr ystâd dai lle’r oedd yn byw lecyn tyfu hyfryd ac roedd ganddo dri rhandir sy’n cyfateb i dri chwrt tennis dwbl maint llawn, a dyna lle dechreuais deimlo’n angerddol. Ond nid tan yn gymharol ddiweddar y llwyddais i sefydlu fy ngardd farchnad fy hun.
Mae ein henw yn deyrnged i fy Nhad-cu – a hefyd oherwydd fy mod eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn adnabod fy Nhad-cu fel Alf, ond roedd mam a Mam-gu yn ei alw’n Alfie pan oedden nhw’n ei bryfocio neu eisiau rhywbeth i’w wneud. Neu Alfred pan oedd yn ddrwg!
Mae rhan Dan yr enw yn dod o pan oeddwn i a fy chwaer yn fach. Doedden ni ddim yn gallu dweud Tad-cu, ac felly fe wnaethon ni ei alw’n “Dan” ac roedd hwnnw’n sownd. Felly nawr mae ein gardd yn cael ei hadnabod fel “Alfie Dan’s”.
Dewiswch o focsys llysiau Bach (£10), Canolig (£15) neu Fawr (£20), ar gael bob dydd Iau. Rydym yn danfon yn syth at eich drws yn Aberhonddu, Talgarth, Llanfair-ym-Muallt, Y Clas-ar-Wy a phentrefi eraill rhwng y lleoedd yma. Neu gallwch gasglu o’r Felin Fach Griffin yn hwyr prynhawn dydd Iau.
A yw’n well gennych siopa mewn person? Galwch draw yn Y Felin Fach Griffin ar gyfer ein stondin gonestrwydd ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul. Mae’r stondin gonestrwydd drws nesaf i’r Felin Fach Griffin, gyferbyn â’r safle bws.
Gwener, Sadwrn a Sul | Stondin gonestrwydd | Felin Fach Griffin | Cael cyfarwyddiadau |
---|