Lyndall Llawen ydw i o Fryn Celyn, sef gardd farchnad deuluol sydd wedi’i lleoli ar lan Llyn Llangors, yng nghanol Bannau Brycheiniog.
Rydym wedi ymrwymo i arddwriaeth adfywiol, tyfu llysiau o ansawdd uchel ac adeiladu ein sylfaen adnoddau naturiol yn y dyfodol drwy feithrin ein pridd. Rydyn ni’n tyfu’n dymhorol, gan werthu dim ond yr hyn rydyn ni’n ei gynaeafu o fis Mai i fis Hydref drwy ein bocsys llysiau wythnosol a’n stondinau haf ym Mryn Celyn a Siop Llangors.
Mae ein bocsys llysiau wythnosol ar gael i’w casglu ar ddydd Iau, o fis Mai i fis Hydref ac yn amrywio mewn pris o £6 i £15. Casglwch yn syth o Bryn Celyn, neu casglwch o’n stondin yn Siop Llangors tan 1pm, neu’n uniongyrchol o’r siop ar ôl 1pm.
Ydy’n well gennych chi ddewis eich llysiau eich hun? Dros fisoedd yr haf mae gennym stondinfmarchnad wythnosol bob dydd Iau 9am-1pm yn Siop Llangors. Pan fydd gennym gynnyrch dros ben, rydym yn agor stondin gonestrwydd ym Mryn Celyn.
Dydd Iau (Mai-Hydref) | Siop Llangors | Siop Llangors | Cael cyfarwyddiadau |
---|