Gwynfe Growers, Gwynfe

Trosolwg

Luke Peake a Rebecca ydyn ni ac rydyn ni’n ffermwyr sydd wrth ein bodd yn coginio. Yn 2022, gyda chefnogaeth ein Durin, fe benderfynon ni droi ein hangerdd dros dyfu a bwyta bwyd iach yn ardd farchnad fechan, i helpu i fwydo ein cymuned leol yn ochr orllewinol Bannau Brycheiniog a Dyffryn Tywi. Dram ddechrau Gwynfe Growers!

Rydyn ni’n fferm fach (llai nag erw!), sy’n ymdrechu i fod mor gynaliadwy â phosib. Nid ydym yn cloddio, ac nid ydym yn defnyddio tractor. Ac er nad ydym wedi’n hardystio’n organig (oherwydd y gost a’r elfen weinyddol), rydym yn dilyn arferion organig. Rydym yn canolbwyntio ar iechyd y pridd, y pryfed peillio a’r pryfed, a’r ecosystem ehangach yr ydym yn byw ynddi, ac rydym yn annog amrywiaeth. Rydym yn falch o sut ydym yn tyfu, a’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau!

Gwybodaeth allweddol

  • Ar gael Mehefin-Rhag
  • Gwasanaeth danfon i’r cartref
  • Mae modd casglu o’r safle
  • Stondin farchnad

Sut i Orchymyn

Stondinau a Marchnadoedd

Dewch i ywmeld â’n stondin ‘pop-up’ wythnosol wrth gât y fferm bob dydd Sadwrn rhwng 10am a 12pm. Bydd ddigonedd o lysiau, bara surdoes, cyffeithiau, te, coffi a chacennau. Fel arall gallwch e-bostio archeb drwodd i’w gasglu ar ddiwrnod gwahanol neu ar amser gwahanol.

Ymunwch â’n rhestr bostio am ddiweddariadau wythnosol ar yr hyn sy’n digwydd a’r hyn sydd ar gael.

Digwyddiadau i ddod

Pob dydd Sadwrn Marchnad ‘Pop Up’ Gwynfe Growers Marchnad ‘Pop Up’ Gwynfe Growers Cael cyfarwyddiadau