Ni yw Rob a Zoe Proctor ac mae ein gardd farchnad deuluol ar gyrion Gilwern, yng Ngheunant Clydach. Rydym yn darparu bocsys llysiau ffres, tymhorol i’r ardal leol trwy ein dull Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (AGG).
Mae Tir Awen, wedi ei ddatblygu o sach sengl o datws, a roddwyd i ni gan gymydog gyda chais i ni eu plannu ar gyfer y gymuned ar ddechrau’r pandemig. Mae ein menter yn cynnwys archwilio sut y gallwn fyw mewn cydbwysedd â natur wrth gynhyrchu bwyd sy’n maethu’r corff a’r meddwl. I’r perwyl hwnnw, rydym yn defnyddio arferion adfywio, gan hybu iechyd y pridd trwy ddefnyddio dulliau na sydd yn cloddio’r priod ac nid ydym yn defnyddio unrhyw gemegau a phlaladdwyr.
Mae Tir Awen yn gallu darparu ar gyfer hyd at 50 o aelwydydd gyda chyfran o’n cynhaeaf. Rydym yn eich gwahodd i ddod yn aelod o’n AGG a derbyn bocs llysiau wythnosol am 46 wythnos o’r flwyddyn, wedi’i ddosbarthu’n ffres i’ch drws. Mae ymrwymo i gael eich llysiau gennym bob wythnos yn golygu y gallwn gynllunio, plannu, tyfu a chynaeafu’r hyn sydd ei angen arnom i lenwi ein bocsys wythnosol â llysiau ffres lleol a thymhorol, gan wybod y bydd yn cael ei werthu a’i fwyta.
Rydym yn cadw cyn lleied o wastraff â phosibl, gan ddarparu bocsys amldro ac rydym ond yn defnyddio pecynnau ychwanegol pan fo’n gwbl angenrheidiol i sicrhau bod eitem yn eich cyrraedd mor ffres ag yr oedd yn gadael ein gardd. Dosberthir bocsys mewn fan drydan allyriadau sero. Rydym wedi ymrwymo i dyfu’n gynaliadwy, a gydag uchafswm o 50 o gwsmeriaid, gallwn sicrhau bod digon o le ar ein tir ar gyfer natur a bywyd gwyllt hefyd.