Ben Ward ydw i ac rwy’n rhedeg Moor Park Garden, gardd gyda muriau 1.5 erw lle nad ydym “yn cloddio” yn Llanbedr, ger Crucywel. Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi adfer yr ardd i’w hen ogoniant, heb ddefnyddio cemegau, plaladdwyr a gwrtaith synthetig oherwydd mae hynny’n well i’r amgylchedd. Gan edrych tua’r dyfodol, rwyf hefyd wedi plannu coed ffrwythau ar y cae cyfagos.
Mae fy ffocws ar dyfu ffrwythau a llysiau tymhorol mewn ffordd sydd y tu hwnt i organig. Ac i gadw’r milltiroedd bwyd yn isel, rwy’n gwerthu’r cynhaeaf i siopau a bwytai lleol ac yn dosbarthu bocsys llysiau wythnosol i gartrefi cyfagos.
A minnau’n byw mewn ardal wledig ar hyd fy oes, rwyf wedi gweld y dirywiad enfawr mewn adar, gwenyn a glöynnod byw oherwydd y defnydd o blaladdwyr, a’r hyn y mae’r cynnydd mewn allyriadau carbon yn ei wneud i’r blaned. Felly, os gallaf wneud fy rhan, a bod eraill yn gallu gwneud eu rhan hwythau, yna gobeithio y gallwn ni ddechrau gwneud gwahaniaeth.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig 3 maint gwahanol o ran bosys llysiau. Mae blychau Safonol (£11.50) a Mawr (£22) yn cynnwys o leiaf 6 eitem a byddant yn cynnwys detholiad o gynnyrch tymhorol sy’n berffaith aeddfed ac yn barod i’w gynaeafu yr wythnos honno. Rydym hefyd yn cynnig blwch cariadon llysiau (£18) sy’n cynnwys lleiafswm o 9 eitem a fydd yn cynnwys yr holl eitemau yn ein bocs safonol ynghyd ag eitemau ychwanegol y byddaf yn eu tyfu mewn symiau bach, fel wylysiau, pupurau, marchysgall, ffrwythau meddal (llus, cyrens, mafon).
Rwy’n ceisio amrywio cynnwys pob blwch bob wythnos felly ni fydd 2 flwch yr un peth. Dyma hefyd ein grŵp WhatsApp ar gyfer cwsmeriaid lle rwy’n cynnig unrhyw gynnyrch ychwanegol sydd ar gael gennyf y gallwch ei ychwanegu / cyfnewid i’ch bocs.
Yn ystod misoedd y gaeaf rwy’n prynu rhai eitemau i ychwanegu at fy nghynnyrch fy hun a chadw cynnwys y bocs yn amrywiol. Daw hwn bob amser gan dyfwyr lleol, bach eraill sy’n rhannu ein hethos neu ffermydd ardystiedig organig.
Gellir talu mewn arian parod neu drwy drosglwyddiad banc. Mae modd cludo’r bocsys i unrhyw le o fewn radiws o 5 milltir i Moor Park Garden, Llanbedr. Ar gyfer cwsmeriaid yn ardal y Fenni, gallwch gasglu eich blwch llysiau o ‘Chester’s Wine Merhcants’ ar nos Wener.